Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

20 Tachwedd 2017

SL(5)142 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Mae'r Rheoliadau yn diwygio adran 18(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (y Ddeddf), i ganiatáu i swyddog perthnasol (fel y'i diffinnir gan adran 17(2) o'r Ddeddf) ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr (fel y'i diffinnir gan adran 17(3) o'r Ddeddf), i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ac i Revenue Scotland. Gall hyn ddigwydd pan fo'r datgeliad yn gysylltiedig â swyddogaethau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Revenue Scotland, neu Awdurdod Cyllid Cymru.

Deddf Wreiddiol: Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Fe’i gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’i  gosodwyd ar: 25 Hydref 2017

Yn dod i rym ar: heb ei nodi

SL(5)143 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer amryw o faterion mewn cysylltiad â gweinyddu'r trethi datganoledig.

Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi Corff Adnoddau Naturiol Cymru fel person y gall Awdurdod Cyllid Cymru ddirprwyo iddo unrhyw un o'i swyddogaethau mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi.

Mae Rheoliad 4 yn pennu mai cyfnod cynllunio cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru fydd 1 Ebrill 2018 hyd 31 Mawrth 2019 (at ddibenion ei gynllun corfforaethol).

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer cyfraddau llog taliadau hwyr a llog ad-daliadau.

Mae Rhan 4 yn darparu gweithdrefnau i ddyfarnu ynghylch anghydfodau o ran a yw gwybodaeth neu ddogfen y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gofyn amdani yn cael ei diogelu gan fraint broffesiynol gyfreithiol.

Deddf Wreiddiol: Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Fe’i gwnaed ar: 23 Hydref 2017

Fe’i gosodwyd ar: 26 Hydref 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2018 ac eithrio rheoliadau a geir yn Rhannau 1 a 2 a ddaw i rym ar 21 Tachwedd 2017

SL(5)145 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau GDS”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau PDS”).

Mae’r Rheoliadau GDS yn nodi fframwaith i Gymru ar gyfer contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol. Mae rheoliad 3 yn diwygio paragraff 38 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau GDS i ganiatáu cyflwyno’r wybodaeth a bennir yn electroneg.

Mae’r Rheoliadau PDS yn nodi fframwaith i Gymru ar gyfer cytundebau gwasanaethau deintyddol personol. Mae rheoliad 4 yn diwygio paragraff 39 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau PDS i ganiatáu cyflwyno’r wybodaeth a bennir yn electroneg.

Deddf Wreiddiol: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Fe’i gwnaed ar: 25 Hydref 2017

Fe’i gosodwyd ar: 31 Hydref 2017

Yn dod i rym ar: 1 Rhagfyr 2017

SL(5)146 - Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Gwneir y Gorchymyn hwn fel rhan o gasgliad o is-ddeddfwriaeth yn ymwneud ag adnoddau dŵr.  Gwneir Rheoliadau ar y cyd ar gyfer Cymru a Lloegr sy’n cynnwys darpariaethau ynghylch esemptiadau o’r cyfyngiadau ar dynnu neu groni dŵr (Rheoliadau Tynnu a Chronni Dŵr (Esemptiadau) 2017).  Gwneir hefyd ddarpariaeth drosiannol ar y cyd yn y Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017.  Y Gorchymyn hwn yw’r drydedd elfen, gan ei fod yn dirymu’r gorchmynion lleol yn ymwneud a dyfroedd Cymreig a fydd yn cael eu disodli gan y Rheoliadau uchod.

Deddf Wreiddiol: Ddeddf Dŵr 2003

Fe’i gwnaed ar: 24 Hydref 2017

Fe’i gosodwyd ar: 31 Hydref 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2018

SL(5)151 – Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i'w cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ("y Ddeddf"). Mae Rhan 1 yn sefydlu'r Bwrdd Ystadegau sy'n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu arferion da wrth gasglu ac asesu ystadegau swyddogol. Diffinnir "ystadegau swyddogol" yn adran 6(1) o'r Ddeddf ac mae'n cynnwys, yn is-adran (1)(b)(iii), ystadegau fel y'u pennir trwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mae adran 6(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (1)(b) bennu disgrifiad o'r ystadegau a gynhyrchir neu'r person sy'n eu cynhyrchu.

Nid yw ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan bobl a restrir yn yr Atodlen yn cynnwys ystadegau a gynhyrchir gan y Bwrdd Ystadegau, adrannau'r llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig nac unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran y Goron.

Deddf Wreiddiol: Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Fe’i gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’i gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2).